Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 1 - Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Iau, 7 Gorffennaf 2011 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
9:29 – 10:07 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn: |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
Mark Drakeford (Cadeirydd) Mick Antoniw Rebecca Evans Janet Finch-Saunders Vaughan Gething Elin Jones Lynne Neagle Lindsay Whittle Kirsty Williams |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
|
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Llinos Dafydd (Clerc) Claire Morris (Clerc) |
|||
|
|
||||
1. Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
1.1 Derbyniwyd ymddiheuriad gan Darren Millar. Nid oedd dirprwyo.
2. Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Ffyrdd o weithio
2.1 Nododd y pwyllgor ei rôl ddeuol o graffu ar ddeddfwriaeth a pholisi a nododd benderfyniad y Pwyllgor Busnes i amserlennu diwrnod a hanner bob pythefnos i’r pwyllgor drefnu ei waith.
2.2 Cytunodd y pwyllgor i ymgynghori â chyrff allanol yn ystod toriad yr haf ar ei ffyrdd o weithio a thestunau posibl ymchwiliadau yn y dyfodol.
3. Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Trafod materion o fewn portffolio y Pwyllgor ac ystyried ei flaenraglen waith
3.1 Cytunodd y pwyllgor y byddai’n gwahodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol i’r cyfarfod ar 13 Gorffennaf i roi cyflwyniad cyffredinol am eu portffolios a’u blaenoriaethau. Byddent wedyn yn cael eu gwahodd i sesiwn graffu mwy manwl ar ddechrau tymor yr hydref.
3.2 Cytunodd y pwyllgor y byddai’n dechrau ymchwiliad cyn toriad yr haf ac y byddai’r gwasanaeth ymchwil yn paratoi papur erbyn y cyfarfod nesaf yn nodi cwmpas ymchwiliadau posibl. Byddai’r papur hwn wedi’i seilio ar bynciau a awgrymwyd gan Aelodau ac ar argymhellion adroddiadau etifeddiaeth pwyllgorau’r Trydydd Cynulliad
3.3 Byddai’r pwyllgor yn ystyried ei raglen waith ar gyfer yr hirdymor yn yr hydref, pan fyddai rhaglen ddeddfwriaethol y Llywodraeth wedi ei chyhoeddi.
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod.